Amdanon Ni

Ynglŷn â'r Prosiect Gweledigaeth

Pwy ydyn ni, ein hanes, ein gweledigaeth a chwrdd â'r tîm gwych sy'n gwneud y cyfan yn bosibl.

EIN GWELEDIGAETH, CENHADAETH A PHWRPAS

PWY YDYM NI?

Ymddiriedolaeth ddatblygu, elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant yw Partneriaeth Adfywio Ynysybwl. Nod yr ymddiriedolaeth yw codi ansawdd bywyd i bawb, creu cyfleoedd i bobl ifanc a chreu cyfleoedd mewn iechyd a lles ynghyd â helpu i ddatblygu’r economi lleol, yn enwedig mynediad at gefn gwlad a thwristiaeth.  

EIN PWRPAS

Y newid y mae Partneriaeth Adfywio Ynysybwl (PAY) eisiau ei arwain ar gyfer cymunedau Ynysybwl a Choed Y Cwm yw: 

• Annog mwy o weithgaredd o fewn y cymunedau a gwneud defnydd gwell o amgylcheddau naturiol sy’n amgylchynu’r ardal. 
• Cael llais cryfach sy’n dylanwadu ac yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer dylunio gwasanaethau yn lleol. 
• Datblygu ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros asedau cymunedol sy’n ymgysylltu/cynnwys unigolion a grwpiau mewn gweithgareddau a chyfleoedd sy’n gwella addysg, cyflogaeth, iechyd a lles. 
• Sicrhau fod Ynysybwl a Choed y Cwm yn gymunedau cynhwysol sy’n cynnig cefnogaeth i’r unigolion hynny sy’n anodd eu cyrraedd a’u croesawu i ymuno mewn gweithgareddau’r gymuned leol. 
• Cynnig cefnogaeth a helpu i feithrin ac adeiladu capasiti grwpiau cymunedol ac unigolion i’w gwneud yn fwy effeithiol a chynaliadwy gan helpu i wella bywydau. 

Y FFORDD RYDYM YN GWEITHIO

Rydym yn gatalydd ar gyfer newid positif trwy: 
• Hwyluso
• Galluogi 
• Cysylltu 
• Cynnwys 
• Ymgysylltu 

EIN GWERTHOEDD

Mae gennym y gwerthoedd canlynol: 

• Bod yn Agored 
• Gonestrwydd
• Cydweithrediad 
• Cywirdeb 
• Cydweithio 
• Cynhwysiant

OUR TRUSTEES 

OUR STAFF

LOUISA ADDISCOTT
Swyddog Arwain
MARC HUTTON
Prif Swyddog Menter Ieuenctid
TOMAS PHILLIPS
Swyddog Menter Ieuenctid
DAVID HARRIS
Cysylltydd Cymunedol
HAYLEY FIDLER
Swyddog Datblygu Prosiect
ALISON DAVIES
Rheolwr Cyllid
Share by: